Croeso i wefan
Seindorf Arian Aberystwyth ar ei
newydd wedd.
Rydym yn fand
pres traddodiadol sydd wedi ei leoli
yn Aberystwyth. Rydym yn cymryd rhan
mewn nifer o gystadleuthau
cenedlaethol, ac yn perfformio mewn
nifer o ddigwyddiadau lleol.
Mae’r band ar
gael i wneud cyngherddau trwy’r
flwyddyn ac mae’n
repertoire
eang yn cynnwys cerddoriaeth
clasurol bandiau pres, Jazz a
cherddoriaeth boblogaidd.
Mae’r band yn
ymarfer unwaith yr wythnos yn eu
stafell ymarfer newydd. Mae wastad
yna groeso cynnes i chwaraewyr o
unrhyw safon i ymuno a ni. Mi fydd
aelodau newydd yn derbyn pob cymorth
ac os angen mae’n bosib benthyg
offeryn gan y band.
Os ydych yn dod
i’r ardal gyda’ch gwaith neu ar
wyliau, mi fydd croeso cynnes yn
aros amdanoch os byddwch yn taro
mewn i’n gweld.
Mi fydd y
tudalennau yma yn cael eu adnewyddu
yn aml, felly dewch yn nôl yn fuan.
The site will be frequently
updated so make sure you visit
us regularly!